
Cylchlythyr Hydref 2026
Croeso i rifyn mis Hydref 2026 o gylchlythyr Cynllun Pont a Chysylltiadau Teithio Llesol Llan-ffwyst i’r Fenni. Yn y rhifyn hwn, rydym yn rhannu’r cynnydd diweddaraf sydd wedi ei wneud ar y prosiect, yn tynnu sylw at garreg filltir allweddol a gyflawnwyd dros yr haf ac yn rhoi diweddariad ar weithgareddau sydd ar y gweill. Roedd Balfour Beatty wrth eu bodd yn mynychu Gŵyl Fwyd y Fenni, lle gwnaethom gyflwyno arddangosfa ddwyieithog am y gwaith adeiladu ar y bont. Roedd yn wych cwrdd â chymaint o drigolion ac ymwelwyr a oedd â diddordeb mewn dysgu mwy am y prosiect. Diolch


