Gweithgareddau Gwerth Cymdeithasol

USK BRIDGE

Mae Gwerth Cymdeithasol yn ganolog i sut mae Balfour Beatty yn cyflawni ar gyfer cymunedau, ac mae hynny’n creu buddion parhaus a aiff ymhell tu hwnt i’r prosiectau a adeiladwn. Mae ein hymrwymiad yn syml: dylai pob buddsoddiad, partneriaeth a gweithgaredd helpu i gryfhau economi’r dref, cefnogi pobl leol a diogelu’r amgylchedd naturiol sy’n gwneud y rhan hon o Sir Fynwy mor arbennig.

O weithio gydag ysgolion a cholegau lleol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, i bartneru gyda grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol, mae ein ffocws ar gyfleoedd sy’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon. Rhoddwn flaenoriaeth i gyflogaeth a chadwyni cyflenwi lleol lle bynnag sy’n bosibl, gan helpu i gadw gwerth o fewn y rhanbarth a chefnogi ffyniant hirdymor.

Mae cyfuniad unigryw y Fenni o dreftadaeth, diwylliant a thirlun yn llunio ein hymagwedd. P’un ai ydym yn gwella seilwaith, cyfoethogi mannau cyhoeddus neu gefnogi datblygu sgiliau, rydym yn gweithio’n agos gyda phreswylwyr, busnesau a phartneriaid sector cyhoeddus i sicrhau fod ein prosiectau yn adlewyrchu anghenion ac uchelgeisiau lleol.

Rhodd Menig i Ymddiriedolaeth Natur Gwent

Yn ddiweddar, gwnaeth Balfour Beatty rodd mewn nwyddau o 30 pâr o fenig amddiffynnol newydd, gwerth £130, i gefnogi gwirfoddolwyr o Ymddiriedolaeth Natur Gwent i ymgymryd â gwaith cadwraeth ar hyd Afon Gafenni.

Defnyddiwyd y menig yn ystod ymdrechion i gael gwared ar ffromlys chwarennog ymledol o Daffodil Banks, gan helpu gwirfoddolwyr i glirio tua 1 cilomedr o goridor afon. Mae’r gweithgaredd yn cyfrannu tuag at wella bioamrywiaeth a chanlyniadau cadwraeth amgylcheddol, gan hefyd gefnogi mentrau ecolegol lleol sy’n gysylltiedig â’r prosiect.

Nid rhywbeth ychwanegol yw Gwerth Cymdeithasol i ni – mae’n gyfrifoldeb.
Os hoffai eich grŵp cymunedol, elusen neu fenter gymdeithasol ganfod os gallwn eich cefnogi, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at
mel.colton-dyer@balfourbeatty.com