Croeso i rifyn mis Tachwedd cylchlythyr y prosiect.
Yn y rhifyn hwn, rydym yn rhannu’r cynnydd diweddaraf ar y prosiect a’r cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd mewn misoedd diweddar. Diolch i chi am eich diddordeb a’ch cefnogaeth barhaus wrth i’r prosiect symud ymlaen.
Digwyddiadau Nesaf Ymgysylltu â’r Gymuned
Cynhelir ein sesiwn nesaf ymgysylltu â’r gymuned gyda’r Grŵp Cyfeillgarwch yn Eglwys Fethodistaidd y Fenni ddydd Iau 26 Tachwedd am 2.00pm.
Wrth i’r prosiect symud i gyfnod y gaeaf, bydd y sesiwn 30 munud yma’n rhoi diweddariad i breswylwyr ar ddadfobileiddio’r safle, trefniadau mynediad, ffensio a gweithgareddau eraill sydd ar y gweill. Bydd hefyd yn esbonio pam y gall fod llai o weithgaredd i’w weld ar y safle dros y gaeaf.
Bydd gwaith dadfobileiddio’r safle yn dechrau ym mis Tachwedd, gydag offer codi trwm yn peidio gweithredu a chael eu symud oddi yno. Disgwylir hefyd ar hyn o bryd y caiff cabanau’r safle eu symud dros y gaeaf. Bydd peth ffensio Heras yn parhau o amgylch y safle a’r ategweithiau, a chaiff ffensys nad oes eu hangen mwyach eu symud fel rhan o’r gwaith.
Cafodd traciau mynediad adeiladu eu gosod ar Ddolydd y Castell i roi mynediad o’r ffordd i gyfarpar trwm i’r safle gweithio. Caiff y traciau mynediad adeiladu eu clirio yn ystod y gaeaf a chaiff y pridd uchaf ei ailosod a’i orchuddio gyda matin Jute Soil Saver. Fel arfer mae gwreiddiau planhigion yn helpu i atal pridd uchaf rhag cael ei olchi ymaith gan lifogydd. Mae’n anaddas hau yr amser hon o’r flwyddyn, felly mae angen y matin i warchod y pridd uchaf gwerthfawr rhag erydiad llifogydd.
Bydd y matin yn gorchuddio cyfanswm arwynebedd o 850m2 a chaiff ei ddal i lawr gyda phegiau pren. I ostwng peryglon baglu, caiff y matin a’r pegiau eu gosod yn agos at y ddaear. Fodd bynnag, byddem yn annog pobl i fod yn ofalus o’i amgylch, peidio mynd ar y matin a defnyddio’r llwybrau a roddwyd. Bydd llwybrau gwyro Hawl Tramwy Cyhoeddus yn parhau yn eu lle.
Drwy gydol cyfnod y gaeaf, caiff mynediad ei gadw i wartheg gyrraedd eu hardal ddiogel ddynodedig pe byddai llifogydd, fel y cytunwyd gyda’r ffermwr a rhanddeiliaid perthnasol.
I ganfod mwy neu i gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at aats@balfourbeatty.com.
Diweddariad ar yr Adeiladu | Cynnydd mis Hydref
Cwblhau Adeiladu Ceson
Cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig arall gyda chwblhau gwaith adeiladu’r ceson yn llwyddiannus, rhan bwysig o’r sylfeini fydd yn ategu’r bont newydd.
Yn dilyn gosod y cawell atgyfnerthu dur, cafodd y tywallt concrit ei gwblhau, gan ffurfio strwythur ceson parhaol. Roedd hyn yn gyfnod allweddol o’r gwaith a roedd angen cynllunio gofalus a chydlynu gan dîm y prosiect.
Gyda’r ceson bellach yn ei le, gall gwaith symud ymlaen i gamau nesaf adeiladu’r bont, gan nodi cam ymlaen arall pwysig i’r prosiect.

Gorffen Gwaith Stancio
Cafodd cam pwysig arall o’r prosiect ei orffen, gyda’r holl waith stancio ar gyfer ategweithiau de a gogledd y bont wedi ei orffen erbyn hyn. Gosodwyd cyfanswm o chwe stanc, tri ym mhob ategwaith, yn defnyddio’r dull Taradr Hediad Parhaus (CFA) y rhoddwyd sylw iddo yn flaenorol yn ein cylchlythyr
Fel y ceson, caiff llawer o’r gwaith hwn ei guddio maes o law gan y bont ar ôl ei gorffen, ond mae ganddo rôl hanfodol wrth gefnogi’r strwythur newydd. Mae’r pyst yn rhoi’r sylfeini cryf sydd eu hangen ar gyfer yr ategweithiau y ddau ben o’r bont. Gyda’i gilydd mae cwblhau’r ceson, mae gorffen y gwaith stancio yn nodi cynnydd sylweddol wrth sefydlu sylfeini’r bont ac yn gam pwysig arall ymlaen i’r prosiect.
Y camau nesaf…
Ar ôl cwblhau’r ceson a’r gwaith stancio yn llwyddiannus, bydd y prosiect yn awr yn symud ymlaen i gam nesaf yr adeiladu, gyda ffurfwaith a gwaith concrit atgyfnerthedig (FRC) yn dechrau i ategweithiau y bont a’r ceson.
Bydd y cam nesaf yn cynnwys gosod atgyfnerthiad dur a gwneud ffurfwaith, fydd yn gweithredu fel mowldin dros dro y caiff concrit ei dywallt iddo i greu siâp gofynnol y strwythurau parhaol.
Ar gyfer gweddill 2026, bydd ffocws y gwaith ar adeiladu’r adrannau sylfaen dechreuol o ategweithiau y gogledd a’r de, ynghyd ag adran gyntaf crofen y ceson.
Wrth i ni agosáu at ddiwedd y cyfnod y caniateir gweithio yn yr afon a chyfnod arfaethedig dadfobileiddio’r safle, bydd y gweithiau hyn yn dod â rhaglen eleni o adeiladu sylfeini mawr i ben, yn dilyn ailosod. Bydd gweddill yr adrannau o’r ategwaith a strwythurau concrit cysylltiedig wedyn yn parhau fel rhan o raglen adeiladu 2027.
‘Cysylltiadau Llan-ffwyst’ – Cyhoeddi cynlluniau ychwanegol
Tra caiff gwaith adeiladu ar y safle ar gyfer y bont teithio llesol ei oedi dros y gaeaf, bydd dau ddarn pwysig arall o waith yn mynd rhagddynt. Yn gyntaf, bydd y gwaith o saernïo’r bont yn dechrau oddi ar y safle ac yn ail mae gwaith i’r briffordd ar y gweill i wella cysylltiadau i’r bont newydd ar ochr Llan-ffwyst.
Bydd gwelliannau priffyrdd yn helpu i wneud teithiau bob dydd yn haws ar gyfer pobl sy’n teithio i ganol tref y Fenni, Dolydd y Castell, siopau lleol, ysgolion, gwaith a chymunedau cyfagos heb orfod dibynnu ar gar. Bydd y dyluniad yn mynd i’r afael â hen broblemau ar hyd Heol Merthyr, i’r de o Bont Wysg, yn cynnwys rhannau cul o droetffordd, nifer gyfyngedig o fannau croesi a dim darpariaeth ar gyfer seiclo.
Mae gwaith adeiladu ar y cysylltiadau ychwanegol ar y gweill ar gyfer gaeaf 2026 i’r gwanwyn yn 2027. Cafodd y cynlluniau ar gyfer y cynllun adeiladu hyn eu datblygu drwy ymgynghoriad gyda’r cyhoedd a’r rhanddeiliaid, a bydd yn cynnwys gwella mannau croesi ac ailalinio’r briffordd i gynnwys llwybr rhannu defnydd rhwng y bont cerdded a seiclo newydd a’r is-ffordd i The Cutting.
I gael mwy o wybodaeth ar y gwaith arfaethedig a gweld manylion y cynllun, ewch i adran ‘Cysylltiadau Llan-ffwyst’ ar wefan Cyngor Sir Fynwy: www.monmouthshire.gov.uk/highways/active-travel/active-travel-in-abergavenny-and-llanfoist/
Ewch i wefan Cyngor Sir Fynwy i weld y dyluniad manwl
Gwerth Cymdeithasol ac Ymgysylltu â’r Gymuned
Mae cynllun Pont Teithio Llesol Llan-ffwyst i’r Fenni a Chysylltiadau Llan-ffwyst yn parhau i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned leol drwy amrywiaeth o gynlluniau gwerth cymdeithasol.
Cynhaliodd Balfour Beatty ddigwyddiad ymgysylltu â’r gymuned yn Neuadd Fethodistaidd y Fenni ddechrau mis Hydref (gweler gwybodaeth yn rhan gyntaf y cylchlythyr hwn am y sesiwn galw heibio nesaf ar 26 Tachwedd!) a darparu arddangosiad am waith adeiladu’r bont i Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy ar gyfer eu gorsaf wybodaeth yn Ffair y Fenni Wyrddach ar 18 Hydref.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth:
“Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn mynychu’r sesiwn galw heibio. Gallodd tîm Balfour Beatty esbonio’r gwaith peirianneg oedd yn digwydd i adeiladu’r sylfaen ar gyfer y bont, a sut maent yn diogelu bioamrywiaeth yr afon a’r dolydd. Rwy’n credu fod yr holl dref yn awr yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn cael ei orffen.”






