October Newsletter Welsh

Roedd Balfour Beatty wrth eu bodd yn mynychu Gŵyl Fwyd y Fenni, lle gwnaethom gyflwyno arddangosfa ddwyieithog am y gwaith adeiladu ar y bont. Roedd yn wych cwrdd â chymaint o drigolion ac ymwelwyr a oedd â diddordeb mewn dysgu mwy am y prosiect. Diolch i bawb a dreuliodd amser yn siarad â ni ac yn dysgu mwy am y Cynllun Pont a Chysylltiadau Teithio Llesol Llan-ffwyst i’r Fenni.

Rydym wedi ychwanegu mwy o wybodaeth i wefan y cynllun i ymateb i gwestiynau a godwyd yn yr Ŵyl Fwyd, ac i ddarparu gwybodaeth fanylach – gan gynnwys diagramau, lluniau a fideos o’r prosiect wrth iddo ddatblygu, ynghyd â gwybodaeth fanwl am y llwybrau, y gatiau a hygyrchedd. Ewch i adran Cwestiynau Cyffredin y wefan yma:

abergavennyactivetravelbridge.co.uk/cymru/frequently-asked-questions/

Digwyddiadau Ymgysylltu â’r Gymuned sydd ar ddod

Mae Balfour Beatty yn falch o wahodd trigolion lleol i ddau ddigwyddiad mewn person ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned, gan roi cyfle i chi ddysgu mwy am y prosiect a siarad yn uniongyrchol ag aelodau o dîm y prosiect.

Cynhelir y ddau ddigwyddiad yn Eglwys Fethodistaidd y Fenni, Stryd y Castell, ac maent yn rhad ac am ddim i fynychu.  I gael gwybod mwy neu er mwyn cofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at aats@balfourbeatty.com.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu, ateb eich cwestiynau, a chlywed eich barn am y prosiect.

Digwyddiad Ymgysylltu â’r Gymuned | Dydd Iau 1 Hydref rhwng 11:30yb a 2:30yp

Gwahoddir preswylwyr i ddod draw, cwrdd â thîm y prosiect a dysgu mwy am sut mae’r cynllun yn mynd rhagddo.  Byddwn yn arddangos y diweddariadau o ran yr adeiladu, y rhaglen o waith sydd i ddod, amserlenni prosiect a cherrig milltir allweddol, gan eich helpu i ddeall beth i’w ddisgwyl yn y misoedd i ddod.

P’un a oes gennych gwestiynau neu eisiau deall mwy am y prosiect, bydd ein tîm wrth law i helpu.  Bydd te a choffi am ddim ar gael.

Sesiwn Diweddaru Prosiect y Gaeaf | Dydd Iau 26 Tachwedd am 2.30yp

Wrth i’r prosiect fynd i mewn i’w gyfnod gaeaf, bydd y sesiwn 30 munud hon yn rhoi diweddariad ar weithgareddau a gynlluniwyd dros gyfnod y gaeaf.  Bydd Rheolwr Safle Balfour Beatty yn amlinellu’r rhaglen ar gyfer 2027, gan gynnwys pryd y disgwylir i weithgareddau adeiladu ailddechrau a’r cerrig milltir allweddol yn y flwyddyn i ddod.

P’un a ydych wedi bod yn dilyn y prosiect yn agos neu a hoffech ddeall beth i’w ddisgwyl dros fisoedd y gaeaf, byddem yn falch iawn o’ch croesawu ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Diweddariad ar y Gwaith Adeiladu | Cynnydd ym mis Medi

Cau ffyrdd dros nos

Rydym yn trefnu nifer o achlysuron lle bydd ffyrdd ar gau dros nos yn ystod yr wythnosau nesaf, er mwyn hwyluso symud offer craen arbenigol a chwblhau gweithgareddau adeiladu allweddol ar gyfer y cynllun yn ddiogel.

Er mwyn gallu gwneud y gwaith hwn yn ddiogel, bydd angen cau ffyrdd dros nos yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd arwyddion yn cael eu gosod cyn i’r ffyrdd gael eu cau er mwyn hysbysu trigolion a bydd yna lwybrau dargyfeirio wedi’u marcio’n glir. Hoffem ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud.


Gosod y ceson

Y mis hwn, cyrhaeddodd y cynllun garreg filltir bwysig wrth i gam cyntaf adeiladu’r ceson gael ei gwblhau’n llwyddiannus. Mae’r tîm bellach wedi cloddio’r siafft i’w dyfnder dylunio terfynol; mae hyn yn gam sylweddol ymlaen wrth ddarparu’r bont newydd ac yn gosod y sylfeini ar gyfer cam nesaf yr adeiladu.

Bydd cam nesaf y gwaith yn cynnwys gosod y cawell atgyfnerthu dur y tu fewn i’r ceson. Bydd y gwaith cymhleth hwn yn defnyddio dau graen sy’n gweithio ar y cyd i godi’r cawell atgyfnerthu yn ddiogel o’i safle cyflenwi a’i droi’n fertigol cyn ei ostwng i’r siafft. Unwaith y bydd yr atgyfnerthiad yn ei le, bydd y ceson yn cael ei lenwi â choncrit hyd at y lefel ddylunio ofynnol, gan gwblhau’r elfen hollbwysig hon o sylfeini’r bont.

Adeiladu ceson, gan baratoi’r sylfaen ar gyfer piler y bont, a fydd yn cael ei osod y flwyddyn nesaf.

Gwaith Pentyrru

Mae mis Medi hefyd yn nodi dechrau’r gwaith pentyrru ar gyfer sylfeini’r bont ar ochrau gogleddol a deheuol yr afon. Bydd y sylfeini hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal strwythur newydd y bont.

Cefnogir pob sail gan dri phentwr concrit wedi’i atgyfnerthu; mae gan bob un ddiamedr o 600 mm ac mae’n ymestyn tua 25 metr o dan lefel y ddaear. Mae’r pentyrrau’n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio techneg ‘Continuous Flight Auger’ (CFA). Mae’r broses hon yn golygu drilio i’r dyfnder gofynnol cyn pwmpio concrit i’r twll wrth i’r ‘auger’ gael ei dynnu allan. Yna, byddwn yn gosod cewyll atgyfnerthu dur yn y concrit sydd newydd ei dywallt, gan greu sylfaen gref a gwydn i’r bont.

Mae’r gwaith hwn yn gam allweddol arall yn y prosiect a bydd yn helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer adeiladu is-strwythur y bont yn y misoedd nesaf.

Mae peiriant pentyrru yn creu tyllau i’w llenwi â choncrit, gan greu sylfaen sefydlog ar gyfer mannau glanio’r bont

‘Cysylltiadau Llan-ffwyst’ – Cynlluniau ychwanegol wedi’i cyhoeddi

Tra bod y bont teithio llesol eisoes yn cael ei hadeiladu, mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) wedi cyhoeddi cynlluniau ychwanegol ar gyfer gwelliannau i’r llwybr rhwng The Cutting yn Llan-ffwyst a’r bont newydd.

Bydd y gwelliannau’n helpu i wneud teithiau bob dydd yn haws i bobl sy’n teithio i ganol tref y Fenni, Castle Meadows, siopau lleol, ysgolion, gwaith a chymunedau cyfagos heb orfod dibynnu ar gar.
Bydd y gwaith yn mynd i’r afael â materion hirsefydlog ar hyd Heol Merthyr, i’r de o Bont Wysg, gan gynnwys rhannau cul o’r droedffordd, nifer gyfyngedig mannau croesi a dim darpariaeth ar gyfer beicio.

Mae adeiladu’r cysylltiadau ychwanegol wedi’i gynllunio rhwng gaeaf 2026 a gwanwyn 2027.
Mae’r cynlluniau ar gyfer y gwaith adeiladu hwn wedi’u datblygu drwy ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, a byddant yn cynnwys:
• Croesfan sebra ger Pont Wysg (ychydig i’r de o fynedfa’r fynwent)
• Cwrb isel hygyrch wrth yr isbont/Lôn yr Eglwys
• Lledu’r droedffordd lle mae’n ymuno â’r bont ar yr ochr dde-ddwyreiniol
• Llwybr defnydd a rennir ar hyd ochr ddwyreiniol Ffordd Merthyr
• Croesfan baralel ar ben deheuol Ffordd Merthyr (i’r gogledd o gylchfan Waitrose, gan ddisodli’r groesfan afreolus bresennol ar yr ynys wahanu)
• Troedffordd barhaus rhwng KwikFit a Wharf House – ar hyn o bryd mae bwlch yn y droedffordd yn cyfyngu ar fynediad (lle cafodd mynedfa gerbydau ei thynnu).
• Croesfan baralel ar ffordd ymuno Blaenau’r Cymoedd i ddisodli’r groesfan afreolus bresennol
• Mae gwaith ail-wynebu priffyrdd ychwanegol yn ardal Llan-ffwyst hefyd wedi’i gynllunio.
*Mae croesfan baralel yn groesfan sebra ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith arfaethedig ac i weld manylion y cynllun, ewch i ‘Cysylltiadau Llan-ffwyst’ ar wefan CSF: www.monmouthshire.gov.uk/cy/priffyrdd/teithio-llesol/teithio-llesol-yn-y-fenni-a-llan-ffwyst/ghways/active-travel/active-travel-in-abergavenny-and-llanfoist/

Enghraifft o groesfan gyfochrog, Trefynwy
Ewch i wefan CSF i weld y dyluniad yn fanwl

Gwerth Cymdeithasol ac Ymgysylltu â’r Gymuned

Parhaodd Gynllun Pont a Chysylltiadau Teithio Llesol Llan-ffwyst i’r Fenni i greu gwerth cymdeithasol cadarnhaol yn ystod mis Medi, gan gefnogi dwy fenter gymunedol leol.

Cefnogodd tîm y prosiect Ŵyl Fwyd y Fenni trwy ddarparu arwyddion i ddigwyddiadau, gan helpu i gyflwyno un o brif ddigwyddiadau cymunedol y dref. Cafwyd yr arwyddion trwy fenter gymdeithasol, gan sicrhau bod gwariant y prosiect yn creu buddion cymunedol ehangach wrth gefnogi busnesau sy’n cael eu gyrru gan gymdeithas.

Balfour Beatty a’r is-gontractwr GT Jones yn gosod arwyddion i gefnogi Gŵyl Fwyd y Fenni.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiwn am y prosiect, gallwch anfon e-bost at y tîm yma: aats@balfourbeatty.com

Fel arall, gallwch gysylltu â’n rheolwr prosiect, Ryan Anderson, ar 07580 982399.

Y tu allan i oriau ac ar frys?

Cysylltwch â’n llinell gymorth y tu allan i oriau ar 0800 121 4444 neu e-bostiwch: help@balfourbeatty.com

Cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr hwn yn uniongyrchol

Os hoffech gofrestru i dderbyn copi o’r cylchlythyr dros e-bost, ewch i’n gwefan trwy sganio’r cod QR isod.

Mae’r cylchlythyr hwn ar gael mewn fformatau eraill ar gais.

E-bostiwch aats@balfourbeatty.com am fwy o wybodaeth.