Mae Balfour Beatty wedi’i benodi fel y prif gontractwr i gyflawni Pont Teithio Llesol nodedig Llan-ffwyst i’r Fenni. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y cynllun ddechrau mis Mehefin 2026, gyda’r bwriad o’i gwblhau ddiwedd 2027.
Croeso i gylchlythyr Pont a Chysylltiadau Teithio Llesol Llan-ffwyst i’r Fenni
Byddwn yn cyhoeddi cylchlythyr rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb am gynnydd y prosiect. Bydd pob rhifyn yn cynnwys diweddariadau allweddol, lluniau cynnydd, ac uchafbwyntiau o’n gweithgareddau gwerth cymdeithasol, yn ogystal â gwybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan.
Sesiwn galw heibio Pont Teithio Llesol Llan-ffwyst i’r Fenni
Ymunwch â thîm prosiect Balfour Beatty am sesiwn holi ac ateb gyfeillgar, canfod mwy am y prosiect a chlywed yr hyn y gallai’r prosiect ei olygu ar gyfer y gymuned leol.
P’un ai ydych y byw yn lleol, yn teithio drwy’r ardal, yn defnyddio’r dolydd, yn rhedeg busnes lleol neu ddim ond eisiau gwybod mwy am y prosiect, byddai’r tîm yn falch i gwrdd â chi. Nid oes unrhyw gwestiwn yn rhy fach ac mae’n gyfle i drafod yr hyn sy’n bwysig i chi.
Dyddiad: Dydd Iau 16 Gorffennaf
Amser: 11am–1pm
Cyfeiriad: Safle Balfour Beatty, Heol Merthyr, Llan-ffwyst, Y Fenni NP7 9LH
What3words: ///destiny.protect.intricate
Os na fedrwch fynychu ond bod gennych gwestiynau yr hoffech eu gofyn, anfonwch e-bost at aats@balfourbeatty.com os gwelwch yn dda.
Diweddariad Adeiladu
Bydd y gwaith adeiladu yn cael ei gyflawni fesul cam i ganiatáu gwaith o fewn amgylchedd sensitif Afon Wysg a’r dolydd cyfagos, gan hefyd ddiogelu bioamrywiaeth drwy gydol y prosiect.
Ers dechrau mis Mehefin 2026, mae Balfour Beatty wedi cwblhau ystod o waith galluogi hanfodol i baratoi’r safle ar gyfer adeiladu. Mae’r rhain wedi cynnwys clirio llystyfiant a thynnu pridd yn ofalus i baratoi’r ardal ar gyfer caeadle’r safle.

Yn ystod y gwaith hwn, nodwyd bod yr uwchbridd yn gymharol bas oherwydd defnydd hanesyddol yr ardal fel tomen. Mae’r pridd wedi’i gloddio wedi’i storio ar y safle a bydd yn cael ei ailddefnyddio yn ystod y gwaith adfer, unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau, er mwyn cynnal ecoleg y safle ac i leihau gwastraff.


Diweddariad Cynnydd Mehefin
Mae Balfour Beatty bellach yn sefydlu caeadle’r safle a’r ffordd fynediad, gan adeiladu llwyfannau gwaith a llwybr dargyfeirio lle bydd gwaith yn rhwystro mynediad i’r llwybr troed presennol ar lan yr afon.
Mae gwaith seiliau yn mynd rhagddo’n dda, gyda gweithgareddau gosod pyst ar y gweill ar hyn o bryd i gefnogi adeiladu glanfa’r bont, y pier canolog, a’r caisonau.
Gwaith Pentyrru’r Cynhaliad Deheuol
Mae’r platfform gweithio sydd ei angen i gefnogi gweithgareddau pentyrru ar gyfer y cynhaliad deheuol bellach wedi’i gwblhau. Yn debyg i’r ffordd fynediad, adeiladwyd y platfform ar ôl clirio llystyfiant a thynnu uwchbridd gan ddefnyddio agregau 6F5 glân wedi’u gosod dros geotecstilau cyfansawdd, gan ddarparu sylfaen sefydlog ar gyfer offer adeiladu.
Mae cam nesaf y gwaith yn cynnwys gosod y pentyrrau sylfaen cynhaliad. Bydd pob cynhaliad yn cael ei gynnal gan dri phentwr concrit wedi’u hatgyfnerthu, sy’n mesur 600mm mewn diamedr ac yn ymestyn i ddyfnder o tua 25 metr. Mae’r pentyrrau’n cael eu hadeiladu yn gyntaf trwy ddrilio i’r dyfnder gofynnol gan ddefnyddio rig pentyrru arbenigol, cyn gosod cawell atgyfnerthu dur a choncrit i ffurfio’r strwythur parhaol.
Ar ôl eu cwblhau, bydd y pentyrrau’n cael eu cysylltu â’r atgyfnerthu o fewn y strwythur cynhaliad, gan greu system sylfaen barhaus yn unol â’r dyluniad. Bydd y sylfeini hyn yn darparu cefnogaeth hanfodol i’r bont ac yn ffurfio sylfaen y cynhaliad deheuol.

Adeiladu Ffordd Fynediad y De
Mae’r ffordd fynediad ddeheuol bellach wedi’i chwblhau, gan ddarparu mynediad diogel a dibynadwy ar gyfer gweithgareddau adeiladu sydd wedi’u cynllunio ar ochr ddeheuol y safle trwy gydol 2026. Adeiladwyd y ffordd fynediad gan ddefnyddio agregau 6F5 glân wedi’u chwarelu, a osodwyd dros bilen geotecstilau cyfansawdd. Mae’r dull adeiladu hwn yn cryfhau’r ddaear sylfaen ac yn darparu arwyneb sefydlog sy’n gallu cefnogi’r peiriannau trwm a’r offer sydd eu hangen yn ystod cam nesaf y gwaith.
Bydd y ffordd fynediad yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni’r prosiect yn ddiogel ac yn effeithlon, gan gynnwys gosod y caison (monogrannog) – strwythur silindrog concrit wedi’i atgyfnerthu sy’n ymestyn tua 13 metr o dan lefel y ddaear a fydd yn rhan allweddol o sylfaen y bont yn yr afon.
Rhaglen Waith yn yr Afon
Mae adeiladu’r bont o fewn Afon Wysg yn amodol ar gyfyngiadau amgylcheddol llym a osodwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Dim ond rhwng 1 Gorffennaf a 15 Hydref bob blwyddyn y mae CNC yn caniatáu i waith yn yr afon ddigwydd. Mae’r ffenestr waith gyfyngedig hon wedi’i chynllunio i amddiffyn ecoleg sensitif yr afon, gan sicrhau nad yw gweithgareddau adeiladu yn ymyrryd â chyfnodau silio a mudo pysgod.
O ganlyniad, rhaid cynllunio a chwblhau’r holl waith o fewn yr afon yn ofalus yn ystod y cyfnod a ganiateir hwn.
Dargyfeirio Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Er mwyn galluogi adeiladu a sicrhau gweithio diogel, mae dau lwybr dros dro wedi’u datblygu. Mae un ar gyfer peiriannau mawr sy’n symud rhwng y ffordd neu’r safle a’r ardal weithio. Y llall yw’r llwybr dargyfeirio Hawl Dramwy Gyhoeddus, a wnaed o dan orchymyn ‘Cau Llwybr Troed 2 (rhan) Trefol y Fenni dros dro a elwir hefyd yn Llwybr Troed 2(rhan) Y Fenni’ sydd â’r cyfeirnod penderfyniad 108.
Bydd y dargyfeiriadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn aros mewn lle trwy gydol y gwaith adeiladu. Bydd glaniadau a rampiau’r bont yn cael eu hadeiladu unwaith y bydd y bont yn ei le, ac, ar ochr Dolydd y Castell, bydd y rhain yn dilyn aliniad gwreiddiol yr Hawl Dramwy Gyhoeddus.
Bydd llwybr mynediad y safle yn cael ei ffensio dim ond pan fo angen ar gyfer symud peiriannau mawr, a bydd yn cael ei ddadgomisiynu yn ystod y gaeaf. Bydd y llwybr yn cael ei adael yn ei le nes bod y gwaith wedi’i gwblhau. Bydd trac dros dro ar gyfer cyfarpar codi pontydd yn cael ei osod ar y llwybr hwn pan fo angen.

Datblygiad y Prosiect
Mae’r bont yn cael ei hadeiladu i ddarparu croesfan o Lan-ffwyst i’r Fenni ar gyfer ‘teithio llesol’ – hynny yw, teithio drwy gerdded, olwyna neu feicio – gan nad yw’r Bont Wysg bresennol yn opsiwn hawdd na hygyrch i lawer. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweithio gyda phobl leol, ymgyrchwyr a rhanddeiliaid drwy ymgynghoriad helaeth i baratoi dyluniad ar gyfer pont a llwybrau cysylltu, gyda chefnogaeth yr ymgynghorwyr dylunio WSP a Knight Architects, a’r contractwyr adeiladu Balfour Beatty, i wireddu’r prosiect hir-ddisgwyliedig hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy:
“Mae hon yn foment hynod gyffrous i’r Fenni a Llan-ffwyst. Ar ôl blynyddoedd o gynllunio a gweithio mewn partneriaeth, mae’n wych gweld adeiladu’r bont newydd yn dechrau o’r diwedd. Bydd y prosiect hwn yn trawsnewid sut mae pobl yn teithio rhwng ein cymunedau, gan ddarparu llwybr diogel, hygyrch a deniadol ar gyfer cerdded, olwyna a beicio ar draws Afon Wysg.
“Mae’r bont yn llawer mwy na darn o seilwaith, mae’n fuddsoddiad yn ein cymunedau, ein hiechyd a’n dyfodol. Bydd yn helpu pobl i wneud dewisiadau teithio gwyrddach a chysylltu preswylwyr â swyddi, addysg a chyfleoedd hamdden. Mae gweld y gwaith yn dechrau ar y safle yn garreg filltir go iawn, ac rwy’n gwybod y bydd llawer o bobl yr un mor falch â fi i weld y prosiect hir-ddisgwyliedig hwn yn dod yn realiti.”
Mae cyllid ar gyfer y cynllun wedi’i ddarparu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ac, yn fwy diweddar, Cronfa Trafnidiaeth Ranbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r Gronfa Teithio Llesol yn cael ei gweinyddu gan Drafnidiaeth Cymru, sydd wedi cynghori a chefnogi’r cynllun drwy gydol ei ddatblygiad.
Dywedodd Matthew Gilbert, Pennaeth Teithio Llesol a Chreu Lleoedd, Trafnidiaeth Cymru:
“Rydym yn falch iawn o weld y cynllun hwn yn mynd rhagddo ar ôl sawl blwyddyn o bartneriaeth agos gyda Chyngor Sir Fynwy, gyda chefnogaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru.
“Bydd y llwybr newydd hwn yn creu cyswllt hanfodol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni, gan ei gwneud hi’n haws i bobl gerdded, olwyna a beicio ar gyfer teithiau bob dydd, gan hefyd wella mynediad i’r Dolydd a’r mannau gwyrdd cyfagos.
“Mae cynlluniau fel hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi dewisiadau teithio iachach, mwy cynaliadwy, ac edrychwn ymlaen at barhau â’n cefnogaeth wrth i’r prosiect symud tuag at ei gwblhau.”
Gwerth Cymdeithasol ac Ymgysylltu â’r Gymuned
Ochr yn ochr â gweithgareddau adeiladu, mae ein Hymgynghorydd Effaith Gwerth Cymdeithasol wedi bod yn gweithio’n agos gydag ysgolion lleol, sefydliadau cymunedol a rhanddeiliaid i ddatblygu rhaglen o fentrau gwerth cymdeithasol a fydd yn darparu manteision parhaol ledled yr ardal leol.
Mae ymgysylltiad diweddar wedi cynnwys cyfarfodydd gydag Ysgol Gynradd Llan-ffwyst ac Ysgol y Brenin Harri VIII i drafod gweithgareddau gyrfaoedd, cyfleoedd profiad gwaith a phrosiectau addysgol sy’n gysylltiedig â’r bont, teithio llesol a’r amgylchedd.
Mae trafodaethau hefyd wedi digwydd gyda Chyngor Sir Fynwy a Chyfeillion Dolydd y Castell er mywyn archwilio cyfleoedd i gefnogi gwelliannau i lwybrau troed ac arwyddion lleol. Yn ogystal, rydym wedi dechrau adeiladu partneriaeth gydag elusen leol Ceiniogi’r Coed, gyda chynlluniau i gefnogi ei gwaith trwy wirfoddoli gan weithwyr a, lle bo’n bosibl, trwy gaffael nwyddau a gwasanaethau gan y sefydliad.
Mae’r perthnasoedd cryf sydd eisoes wedi’u sefydlu ar draws y gymuned wedi nodi ystod eang o gyfleoedd i greu effaith leol gadarnhaol drwy gydol cyflawni’r prosiect, gan helpu i wneud y mwyaf o’r manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y mae’n eu dwyn i’r ardal.

Yn y llun (o’r chwith i’r dde):
Ryan Anderson, Rheolwr Prosiect, Balfour Beatty;
Andrew Powell – Swyddog Maes Hawliau Tramwy, Cyngor Sir Fynwy;
Duncan Thompson – Swyddog Prosiect Teithio Llesol, Cyngor Sir Fynwy;
Ruth Rourke – Rheolwr Mynediad Cefn Gwlad, Cyngor Sir Fynwy;
Mel Colton-Dyer, Ymgynghorydd Effaith Gwerth Cymdeithasol, Balfour Beatty.






