{"id":705,"date":"2026-07-13T14:53:36","date_gmt":"2026-07-13T14:53:36","guid":{"rendered":"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/cymru\/?p=705"},"modified":"2026-08-06T13:46:13","modified_gmt":"2026-08-06T13:46:13","slug":"cylchlythyr-mis-gorffennaf-2026","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/cymru\/blog\/cylchlythyr-mis-gorffennaf-2026\/","title":{"rendered":"Cylchlythyr mis Gorffennaf 2026"},"content":{"rendered":"<h2>Mae Balfour Beatty wedi&#8217;i benodi fel y prif gontractwr i gyflawni Pont Teithio Llesol nodedig Llan-ffwyst i&#8217;r Fenni. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y cynllun ddechrau mis Mehefin 2026, gyda&#8217;r bwriad o&#8217;i gwblhau ddiwedd 2027.<\/h2>\n<h3><strong>Croeso i gylchlythyr Pont a Chysylltiadau Teithio Llesol Llan-ffwyst i&#8217;r Fenni<\/strong><\/h3>\n<p>Byddwn yn cyhoeddi cylchlythyr rheolaidd i roi&#8217;r wybodaeth ddiweddaraf i bawb am gynnydd y prosiect.\u00a0 Bydd pob rhifyn yn cynnwys diweddariadau allweddol, lluniau cynnydd, ac uchafbwyntiau o&#8217;n gweithgareddau gwerth cymdeithasol, yn ogystal \u00e2 gwybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan.<\/p>\n<h3><strong>Sesiwn galw heibio Pont Teithio Llesol Llan-ffwyst i\u2019r Fenni<\/strong><\/h3>\n<p>Ymunwch \u00e2 th\u00eem prosiect Balfour Beatty am sesiwn holi ac ateb gyfeillgar, canfod mwy am y prosiect a chlywed yr hyn y gallai\u2019r prosiect ei olygu ar gyfer y gymuned leol.<\/p>\n<p>P\u2019un ai ydych y byw yn lleol, yn teithio drwy\u2019r ardal, yn defnyddio\u2019r dolydd, yn rhedeg busnes lleol neu ddim ond eisiau gwybod mwy am y prosiect, byddai\u2019r t\u00eem yn falch i gwrdd \u00e2 chi. Nid oes unrhyw gwestiwn yn rhy fach ac mae\u2019n gyfle i drafod yr hyn sy\u2019n bwysig i chi.<\/p>\n<h4>Dyddiad: Dydd Iau 16 Gorffennaf<\/h4>\n<h4>Amser: 11am\u20131pm<\/h4>\n<h4>Cyfeiriad: Safle Balfour Beatty, Heol Merthyr, Llan-ffwyst, Y Fenni NP7 9LH<\/h4>\n<h4>What3words: \/\/\/<a href=\"https:\/\/w3w.co\/destiny.protect.intricate\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">destiny.protect.intricate<\/a><\/h4>\n<p>Os na fedrwch fynychu ond bod gennych gwestiynau yr hoffech eu gofyn, anfonwch e-bost at <a href=\"mailto:aats@balfourbeatty.com\">aats@balfourbeatty.com<\/a> \u00a0os gwelwch yn dda.<\/p>\n<h3><strong>Diweddariad Adeiladu<\/strong><\/h3>\n<p>Bydd y gwaith adeiladu yn cael ei gyflawni fesul cam i ganiat\u00e1u gwaith o fewn amgylchedd sensitif Afon Wysg a&#8217;r dolydd cyfagos, gan hefyd ddiogelu bioamrywiaeth drwy gydol y prosiect.<\/p>\n<p>Ers dechrau mis Mehefin 2026, mae Balfour Beatty wedi cwblhau ystod o waith galluogi hanfodol i baratoi&#8217;r safle ar gyfer adeiladu.\u00a0 Mae&#8217;r rhain wedi cynnwys clirio llystyfiant a thynnu pridd yn ofalus i baratoi&#8217;r ardal ar gyfer caeadle&#8217;r safle.<\/p>\n<figure id=\"attachment_717\" aria-describedby=\"caption-attachment-717\" style=\"width: 600px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-717 size-full\" src=\"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Vegetation-clearance-picture.webp\" alt=\"Clirio llystyfiant yr ardaloedd gwaith\" width=\"600\" height=\"394\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-717\" class=\"wp-caption-text\">Clirio llystyfiant yr ardaloedd gwaith<\/figcaption><\/figure>\n<p>Yn ystod y gwaith hwn, nodwyd bod yr uwchbridd yn gymharol bas oherwydd defnydd hanesyddol yr ardal fel tomen. Mae&#8217;r pridd wedi&#8217;i gloddio wedi&#8217;i storio ar y safle a bydd yn cael ei ailddefnyddio yn ystod y gwaith adfer, unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi&#8217;i gwblhau, er mwyn cynnal ecoleg y safle ac i leihau gwastraff.<\/p>\n<figure id=\"attachment_726\" aria-describedby=\"caption-attachment-726\" style=\"width: 600px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img decoding=\"async\" class=\"wp-image-726\" src=\"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Topsoil-picture.webp\" alt=\"Tynnu'r uwchbridd ar gyfer y mynediad i'r gogledd a'r llwyfan pentyrru\" width=\"600\" height=\"329\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-726\" class=\"wp-caption-text\">Tynnu&#8217;r uwchbridd ar gyfer y mynediad i&#8217;r gogledd a&#8217;r llwyfan pentyrru<\/figcaption><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<figure id=\"attachment_727\" aria-describedby=\"caption-attachment-727\" style=\"width: 600px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img decoding=\"async\" class=\"wp-image-727\" src=\"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Sitr-Prep.webp\" alt=\"Paratoi safle caeadle Balfour Beatty \u2013 bydd yr uwchbridd yn cael ei ailosod a'i ail-hadu ar \u00f4l cwblhau'r prosiect. \" width=\"600\" height=\"329\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-727\" class=\"wp-caption-text\">Paratoi safle caeadle Balfour Beatty \u2013 bydd yr uwchbridd yn cael ei ailosod a&#8217;i ail-hadu ar \u00f4l cwblhau&#8217;r prosiect.<\/figcaption><\/figure>\n<h3>Diweddariad Cynnydd Mehefin<\/h3>\n<p>Mae Balfour Beatty bellach yn sefydlu caeadle&#8217;r safle a&#8217;r ffordd fynediad, gan adeiladu llwyfannau gwaith a llwybr dargyfeirio lle bydd gwaith yn rhwystro mynediad i&#8217;r llwybr troed presennol ar lan yr afon.<\/p>\n<p>Mae gwaith seiliau yn mynd rhagddo&#8217;n dda, gyda gweithgareddau gosod pyst ar y gweill ar hyn o bryd i gefnogi adeiladu glanfa&#8217;r bont, y pier canolog, a&#8217;r caisonau.<\/p>\n<h3>Gwaith Pentyrru&#8217;r Cynhaliad Deheuol<\/h3>\n<p>Mae&#8217;r platfform gweithio sydd ei angen i gefnogi gweithgareddau pentyrru ar gyfer y cynhaliad deheuol bellach wedi&#8217;i gwblhau. Yn debyg i&#8217;r ffordd fynediad, adeiladwyd y platfform ar \u00f4l clirio llystyfiant a thynnu uwchbridd gan ddefnyddio agregau 6F5 gl\u00e2n wedi&#8217;u gosod dros geotecstilau cyfansawdd, gan ddarparu sylfaen sefydlog ar gyfer offer adeiladu.<\/p>\n<p>Mae cam nesaf y gwaith yn cynnwys gosod y pentyrrau sylfaen cynhaliad. Bydd pob cynhaliad yn cael ei gynnal gan dri phentwr concrit wedi&#8217;u hatgyfnerthu, sy&#8217;n mesur 600mm mewn diamedr ac yn ymestyn i ddyfnder o tua 25 metr. Mae&#8217;r pentyrrau&#8217;n cael eu hadeiladu yn gyntaf trwy ddrilio i&#8217;r dyfnder gofynnol gan ddefnyddio rig pentyrru arbenigol, cyn gosod cawell atgyfnerthu dur a choncrit i ffurfio&#8217;r strwythur parhaol.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l eu cwblhau, bydd y pentyrrau&#8217;n cael eu cysylltu \u00e2&#8217;r atgyfnerthu o fewn y strwythur cynhaliad, gan greu system sylfaen barhaus yn unol \u00e2&#8217;r dyluniad. Bydd y sylfeini hyn yn darparu cefnogaeth hanfodol i&#8217;r bont ac yn ffurfio sylfaen y cynhaliad deheuol.<\/p>\n<figure id=\"attachment_728\" aria-describedby=\"caption-attachment-728\" style=\"width: 371px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-728 size-full\" src=\"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Piling-picture.webp\" alt=\"'Pentyrru' yw'r gefnogaeth is-arwyneb ar gyfer cynaliadau'r bont\" width=\"371\" height=\"490\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-728\" class=\"wp-caption-text\">&#8216;Pentyrru&#8217; yw&#8217;r gefnogaeth is-arwyneb ar gyfer cynaliadau&#8217;r bont<\/figcaption><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3>Adeiladu Ffordd Fynediad y De<\/h3>\n<p>Mae&#8217;r ffordd fynediad ddeheuol bellach wedi&#8217;i chwblhau, gan ddarparu mynediad diogel a dibynadwy ar gyfer gweithgareddau adeiladu sydd wedi&#8217;u cynllunio ar ochr ddeheuol y safle trwy gydol 2026. Adeiladwyd y ffordd fynediad gan ddefnyddio agregau 6F5 gl\u00e2n wedi&#8217;u chwarelu, a osodwyd dros bilen geotecstilau cyfansawdd. Mae&#8217;r dull adeiladu hwn yn cryfhau&#8217;r ddaear sylfaen ac yn darparu arwyneb sefydlog sy&#8217;n gallu cefnogi&#8217;r peiriannau trwm a&#8217;r offer sydd eu hangen yn ystod cam nesaf y gwaith.<\/p>\n<p>Bydd y ffordd fynediad yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni&#8217;r prosiect yn ddiogel ac yn effeithlon, gan gynnwys gosod y caison (monogrannog) \u2013 strwythur silindrog concrit wedi&#8217;i atgyfnerthu sy&#8217;n ymestyn tua 13 metr o dan lefel y ddaear a fydd yn rhan allweddol o sylfaen y bont yn yr afon.<\/p>\n<h3><strong>Rhaglen Waith yn yr Afon<\/strong><\/h3>\n<p>Mae adeiladu&#8217;r bont o fewn Afon Wysg yn amodol ar gyfyngiadau amgylcheddol llym a osodwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).<\/p>\n<p>Dim ond rhwng 1 Gorffennaf a 15 Hydref bob blwyddyn y mae CNC yn caniat\u00e1u i waith yn yr afon ddigwydd. Mae&#8217;r ffenestr waith gyfyngedig hon wedi&#8217;i chynllunio i amddiffyn ecoleg sensitif yr afon, gan sicrhau nad yw gweithgareddau adeiladu yn ymyrryd \u00e2 chyfnodau silio a mudo pysgod.<\/p>\n<p>O ganlyniad, rhaid cynllunio a chwblhau&#8217;r holl waith o fewn yr afon yn ofalus yn ystod y cyfnod a ganiateir hwn.<\/p>\n<h3><strong>Dargyfeirio Hawliau Tramwy Cyhoeddus<\/strong><\/h3>\n<p>Er mwyn galluogi adeiladu a sicrhau gweithio diogel, mae dau lwybr dros dro wedi&#8217;u datblygu.\u00a0 Mae un ar gyfer peiriannau mawr sy&#8217;n symud rhwng y ffordd neu&#8217;r safle a&#8217;r ardal weithio. Y llall yw&#8217;r llwybr dargyfeirio Hawl Dramwy Gyhoeddus, a wnaed o dan orchymyn &#8216;Cau Llwybr Troed 2 (rhan) Trefol y Fenni dros dro a elwir hefyd yn Llwybr Troed 2(rhan) Y Fenni&#8217; sydd \u00e2&#8217;r cyfeirnod penderfyniad 108.<\/p>\n<p>Bydd y dargyfeiriadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn aros mewn lle trwy gydol y gwaith adeiladu. Bydd glaniadau a rampiau&#8217;r bont yn cael eu hadeiladu unwaith y bydd y bont yn ei le, ac, ar ochr Dolydd y Castell, bydd y rhain yn dilyn aliniad gwreiddiol yr Hawl Dramwy Gyhoeddus.<\/p>\n<p>Bydd llwybr mynediad y safle yn cael ei ffensio dim ond pan fo angen ar gyfer symud peiriannau mawr, a bydd yn cael ei ddadgomisiynu yn ystod y gaeaf. Bydd y llwybr yn cael ei adael yn ei le nes bod y gwaith wedi&#8217;i gwblhau.\u00a0 Bydd trac dros dro ar gyfer cyfarpar codi pontydd yn cael ei osod ar y llwybr hwn pan fo angen.<\/p>\n<div class=\"mceTemp\"><\/div>\n<figure id=\"attachment_752\" aria-describedby=\"caption-attachment-752\" style=\"width: 488px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-752 size-full\" src=\"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/PROW3.webp\" alt=\"Paratoi'r dargyfeiriad Hawliau Tramwy Cyhoeddus\" width=\"488\" height=\"314\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-752\" class=\"wp-caption-text\"><em>Paratoi&#8217;r dargyfeiriad Hawliau Tramwy Cyhoeddus<\/em><\/figcaption><\/figure>\n<h3>Datblygiad y Prosiect<\/h3>\n<p>Mae&#8217;r bont yn cael ei hadeiladu i ddarparu croesfan o Lan-ffwyst i&#8217;r Fenni ar gyfer &#8216;teithio llesol&#8217; \u2013 hynny yw, teithio drwy gerdded, olwyna neu feicio \u2013 gan nad yw&#8217;r Bont Wysg bresennol yn opsiwn hawdd na hygyrch i lawer. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweithio gyda phobl leol, ymgyrchwyr a rhanddeiliaid drwy ymgynghoriad helaeth i baratoi dyluniad ar gyfer pont a llwybrau cysylltu, gyda chefnogaeth yr ymgynghorwyr dylunio WSP a Knight Architects, a&#8217;r contractwyr adeiladu Balfour Beatty, i wireddu&#8217;r prosiect hir-ddisgwyliedig hwn.<\/p>\n<h3>Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy:<\/h3>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><em>&#8220;Mae hon yn foment hynod gyffrous i&#8217;r Fenni a Llan-ffwyst.\u00a0 Ar \u00f4l blynyddoedd o gynllunio a gweithio mewn partneriaeth, mae&#8217;n wych gweld adeiladu&#8217;r bont newydd yn dechrau o&#8217;r diwedd.\u00a0 Bydd y prosiect hwn yn trawsnewid sut mae pobl yn teithio rhwng ein cymunedau, gan ddarparu llwybr diogel, hygyrch a deniadol ar gyfer cerdded, olwyna a beicio ar draws Afon Wysg.<\/em><\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><em>&#8220;Mae&#8217;r bont yn llawer mwy na darn o seilwaith, mae&#8217;n fuddsoddiad yn ein cymunedau, ein hiechyd a&#8217;n dyfodol.\u00a0 Bydd yn helpu pobl i wneud dewisiadau teithio gwyrddach a chysylltu preswylwyr \u00e2 swyddi, addysg a chyfleoedd hamdden.\u00a0 Mae gweld y gwaith yn dechrau ar y safle yn garreg filltir go iawn, ac rwy&#8217;n gwybod y bydd llawer o bobl yr un mor falch \u00e2 fi i weld y prosiect hir-ddisgwyliedig hwn yn dod yn realiti.&#8221;<\/em><\/p>\n<p>Mae cyllid ar gyfer y cynllun wedi&#8217;i ddarparu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ac, yn fwy diweddar, Cronfa Trafnidiaeth Ranbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.\u00a0 Mae&#8217;r Gronfa Teithio Llesol yn cael ei gweinyddu gan Drafnidiaeth Cymru, sydd wedi cynghori a chefnogi&#8217;r cynllun drwy gydol ei ddatblygiad.<\/p>\n<h3><em>Dywedodd Matthew Gilbert, Pennaeth Teithio Llesol a Chreu Lleoedd, Trafnidiaeth Cymru:<\/em><\/h3>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><em>&#8220;Rydym yn falch iawn o weld y cynllun hwn yn mynd rhagddo ar \u00f4l sawl blwyddyn o bartneriaeth agos gyda Chyngor Sir Fynwy, gyda chefnogaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru.<\/em><em>\u00a0<\/em><\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><em>&#8220;Bydd y llwybr newydd hwn yn creu cyswllt hanfodol rhwng Llan-ffwyst a&#8217;r Fenni, gan ei gwneud hi&#8217;n haws i bobl gerdded, olwyna a beicio ar gyfer teithiau bob dydd, gan hefyd wella mynediad i&#8217;r Dolydd a&#8217;r mannau gwyrdd cyfagos. <\/em><\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><em>&#8220;Mae cynlluniau fel hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi dewisiadau teithio iachach, mwy cynaliadwy, ac edrychwn ymlaen at barhau \u00e2&#8217;n cefnogaeth wrth i&#8217;r prosiect symud tuag at ei gwblhau.&#8221;<\/em><\/p>\n<h3>Gwerth Cymdeithasol ac Ymgysylltu \u00e2&#8217;r Gymuned<\/h3>\n<p>Ochr yn ochr \u00e2 gweithgareddau adeiladu, mae ein Hymgynghorydd Effaith Gwerth Cymdeithasol wedi bod yn gweithio&#8217;n agos gydag ysgolion lleol, sefydliadau cymunedol a rhanddeiliaid i ddatblygu rhaglen o fentrau gwerth cymdeithasol a fydd yn darparu manteision parhaol ledled yr ardal leol.<\/p>\n<p>Mae ymgysylltiad diweddar wedi cynnwys cyfarfodydd gydag <em>Ysgol Gynradd Llan-ffwyst<\/em> ac <em>Ysgol y Brenin Harri VIII<\/em> i drafod gweithgareddau gyrfaoedd, cyfleoedd profiad gwaith a phrosiectau addysgol sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r bont, teithio llesol a&#8217;r amgylchedd.<\/p>\n<p>Mae trafodaethau hefyd wedi digwydd gyda <em>Chyngor Sir Fynwy<\/em> a <em>Chyfeillion Dolydd y Castell<\/em> er mywyn archwilio cyfleoedd i gefnogi gwelliannau i lwybrau troed ac arwyddion lleol. Yn ogystal, rydym wedi dechrau adeiladu partneriaeth gydag elusen leol <em>Ceiniogi&#8217;r Coed<\/em>, gyda chynlluniau i gefnogi ei gwaith trwy wirfoddoli gan weithwyr a, lle bo&#8217;n bosibl, trwy gaffael nwyddau a gwasanaethau gan y sefydliad.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r perthnasoedd cryf sydd eisoes wedi&#8217;u sefydlu ar draws y gymuned wedi nodi ystod eang o gyfleoedd i greu effaith leol gadarnhaol drwy gydol cyflawni&#8217;r prosiect, gan helpu i wneud y mwyaf o&#8217;r manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y mae&#8217;n eu dwyn i&#8217;r ardal.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-680 alignleft\" src=\"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/socila-value-meeting-1024x768.webp\" alt=\"\" width=\"692\" height=\"519\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3>Yn y llun (o&#8217;r chwith i&#8217;r dde):<\/h3>\n<p>Ryan Anderson, Rheolwr Prosiect, Balfour Beatty;<br \/>\nAndrew Powell \u2013 Swyddog Maes Hawliau Tramwy, Cyngor Sir Fynwy;<br \/>\nDuncan Thompson \u2013 Swyddog Prosiect Teithio Llesol, Cyngor Sir Fynwy;<br \/>\nRuth Rourke &#8211; Rheolwr Mynediad Cefn Gwlad, Cyngor Sir Fynwy;<br \/>\nMel Colton-Dyer, Ymgynghorydd Effaith Gwerth Cymdeithasol, Balfour Beatty.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Balfour Beatty wedi&#8217;i benodi fel y prif gontractwr i gyflawni Pont Teithio Llesol nodedig Llan-ffwyst i&#8217;r Fenni. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y cynllun ddechrau mis Mehefin 2026, gyda&#8217;r bwriad o&#8217;i gwblhau ddiwedd 2027. Croeso i gylchlythyr Pont a Chysylltiadau Teithio Llesol Llan-ffwyst i&#8217;r Fenni Byddwn yn cyhoeddi cylchlythyr rheolaidd i roi&#8217;r wybodaeth ddiweddaraf [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":872,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[8],"tags":[],"class_list":["post-705","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/705","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=705"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/705\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":738,"href":"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/705\/revisions\/738"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/media\/872"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=705"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=705"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/abergavennyactivetravelbridge.co.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=705"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}